Mae gwasanaethau dros hanner y rheiny sy’n derbyn triniaeth am gyflwr hirdymor wedi cael eu canslo neu eu cwtogi.
Rhwng Gorffennaf 15 ac 19, fe wnaeth y Swyddfa Ystadegau ddadansoddi atebion holiaduron gan 1,606 o bobol 16 oed a hŷn yng ngwledydd Prydain.
Roedd 660 o’r rhain yn oedolion â chyflwr corfforol neu feddyliol hirdymor, ac roedd 63% o’r rheiny wedi bod yn derbyn cymorth meddygol cyn yr argyfwng coronafeirws.
O’r rhain, roedd 30% yn dweud bod y cymorth wedi lleihau, tra bod 21% yn dweud bod eu triniaeth wedi ei chanslo. Roedd pethau’n parhau’r un fath i lai na thraean (31%).
“Penderfyniadau poenus”
“Mae’r ffigurau yma yn amlygu’r penderfyniadau poenus y bu’n rhaid eu cymryd yn ystod anterth y pandemig,” meddai Helen Buckingham, Cyfarwyddwr Strategaeth y Nuffield Trust.
“Yn anffodus, mae’r coronafeirws yn dal i achosi problemau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac i gleifion, ac mi fydd sbel tan fydd hynny’n dod i ben.”