Fe fydd llety sy’n rhannu cyfleusterau’n cael agor i bobol o’r un aelwyd o heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 25).
Bydd hyn yn golygu y gall gwersylloedd, hostelau ac unrhyw lety arall nad yw’n en-suite yn cael agor i bobol sy’n byw gyda’i gilydd neu sy’n rhan o aelwyd estynedig.
Bydd y rheolau hefyd yn cael eu llacio ar gyfer atyniadau hamdden i ymwelwyr heddiw, ar yr amod fod modd iddyn nhw roi mesurau ar waith i warchod staff ac ymwelwyr.
O ddydd Llun (Gorffennaf 27), bydd y cyfyngiadau ar sinemâu, amgueddfeydd, archifdai ac orielau’n cael eu llacio er mwyn iddyn nhw gael agor os ydyn nhw’n dymuno.
Bydd modd hefyd i arcedau difyrion a chanolfannau adloniant i’r teulu agor bryd hynny hefyd.
Bydd gwasanaethau sy’n gofyn am ddod i gysylltiad agos â phobol hefyd yn cael agor, ac mae’r rhain yn cynnwys salonau ewinedd, gwasanaethau tylino a harddwch, a chanolfannau tatŵs, ond mae llefydd sy’n cynnig triniaethau wyneb yn cael eu cynghori i beidio ag agor yn sgil y risg o drosglwyddo’r feirws o un wyneb i’r llall.
Bydd rhagor o lacio ar allu mynd i weld tai gwag er mwyn i’r farchnad dai gael agor eto, ac mae Llywodraeth Cymru’n dweud y byddan nhw’n rhoi eglurder o ran hamdden dan oruchwyliaeth i blant a phobol ifanc dan 18 oed.
Mygydau wyneb
Yn y cyfamser, bydd rhaid gwisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus o ddydd Llun (Gorffennaf 27).
Mae hyn yn cynnwys tacsis, meddai’r prif weinidog Mark Drakeford.
“Wrth i fwyfwy o’n cymdeithas a’n heconomi agor, rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan wrth atal y feirws rhag dychwelyd, drwy gadw pellter cymdeithasol, golchi’n dwylo’n aml a chadw at y ffyrdd newydd o weithio a masnachu,” meddai.
“Dw i eisiau diolch i’r busnesau a sefydliadau niferus sydd wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r arweiniad, sydd wedi cefnogi degau o filoedd o gwmnïau bach a mawr i agor eu drysau i gwsmeriaid ac ymwelwyr unwaith eto.
“Dw i hefyd eisiau diolch i bawb yng Nghymru y mae eu hymdrechion parhaus wedi ein galluogi i gyrraedd y fan hon.
“Gyda’n gilydd, gallwn gadw Cymru’n ddiogel.”