Mae Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies wedi rhoi gwybod i staff bydd rhaid cwtogi tua 60 o swyddi erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf yn sgil y coronafeirws.
Gallai hyn arwain at ostyngiad o tua 6% yn y gweithlu.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall, lansio rhaglen ddiswyddiadau gwirfoddol ar draws y BBC yr wythnos ddiwethaf.
Cyhoeddodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol ym mis Ebrill y byddai angen i’r BBC wneud arbedion o £125m oherwydd y pandemig.
Golygai hyn y byddai angen i BBC Cymru wneud arbedion o £4.5m eleni.
Effaith y coronafeirws
Roedd gan y BBC £800m o arbedion parhaus i’w gwneud cyn i’r feirws greu diffyg ychwanegol o £125m.
Yn ôl y BBC mae’r diffyg ychwanegol yn ganlyniad i ostyngiad yng nghasglu ffi’r drwydded a chwymp sylweddol mewn incwm masnachol.
“Fel nifer o sefydliadau, mae effaith y coronafirws wedi tarfu’n sylweddol ar ein hincwm yn ogystal ag ychwanegu costau,” meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru.
“Wrth reoli’r heriau ariannol yma bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd ond fe fyddwn yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws BBC Cymru er mwyn ceisio lleihau effaith y newidiadau.
“Ein blaenoriaeth fydd sicrhau bod ein cynulleidfaoedd yn parhau i dderbyn rhaglenni a gwasanaethau o’r radd flaenaf.”
Ychwanega Cyfarwyddwr BBC Cymru y bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.
Mae cyhoeddiadau tebyg wedi’u gwneud gan y BBC yn yr Alban a Gogledd Iwerddon heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 23).
Symud i Sgwâr Canolog
Dechreuodd y gwaith o symud swyddfeydd ac adrannau BBC Cymru o Landaf i ganol y brifddinas fis Hydref.
Roedd disgwyl i benderfyniad BBC Cymru i adleoli – sydd wedi sbarduno’r prosiect adfywio trefol mwyaf yng Nghymru – arwain at hwb economaidd gwerth £1.1 biliwn i Gymru, gan arwain at greu 1,900 o swyddi ychwanegol dros gyfnod o ddeng mlynedd.