Mae Yes Cymru bellach yn anelu i gael 25,000 o lofnodion ar addewid i fwrw pleidlais dros annibyniaeth i Gymru pe bai refferendwm yn cael ei gynnal.

Fe ddaw ar ôl i fwy na 10,000 o bobol lofnodi addewid ar eu gwefan,

Mae’r garreg filltir yn hwb arall i’r mudiad sydd wedi dyblu nifer eu haelodau ers dechrau mis Mai.

Mae lle i gredu bod Brexit ac ymdriniaeth llywodraethau Cymru a Phrydain o’r coronafeirws wedi cyfrannu at y twf yn y gefnogaeth i’r mudiad.

Mae gan Yes Cymru dros 5,000 o gefnogwyr erbyn hyn.

Addewid

“Rydym am greu mudiad torfol o bobl sydd wedi gwneud yr addewid i bleidleisio ‘Ie’ dros annibyniaeth i Gymru mewn refferendwm,” meddai’r mudiad yn ei neges wreiddiol.

Ond mae’r neges bellach wedi cael ei haddasu i gynnwys y nod newydd.

“Beth am fod yn 1 o’r 25,000 o bobl sy’n barod i ymrwymo i bleidleisio dros Gymru annibynnol?

“Os ydych chi’n barod i ddweud “ie”, llofnodwch yr addewid isod, a rhannwch gyda’ch ffrindiau.”

Yn dilyn y pôl diweddaraf gan Panelbase sy’n dangos bod 54% o Albanwyr o blaid annibyniaeth, dywed Yes Cymru mai “annibyniaeth neu englandandwales” yw’r dewis i Gymru erbyn hyn.