Mae arweinwyr Fianna Fáil a Fine Gael wedi rhybuddio nad oes “Cynllun B” ar gyfer Iwerddon os bydd eu rhaglen lywodraethol yn cael ei wrthod yr wythnos hon.

Daeth Fianna Fáil, Fine Gael a’r Blaid Werdd i gytundeb ar ffurfio Llywodraeth ar Fehefin 15 ar ôl bron i ddeufis o drafodaethau.

Ers hynny, mae’r pleidiau wedi bod yn ceisio perswadio eu haelodau i gefnogi’r cytundeb, gyda’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ddydd Gwener (Mehefin 26).

Mae angen cefnogaeth dwy ran o dair o aelodau’r Blaid Werdd gan ei 2,700 o aelodau – swm uwch na’r pleidiau eraill, sy’n golygu y gallai’r fargen gael ei chwalu gan fod rhai aelodau o’r Blaid Werdd ar lawr gwlad wedi mynegi pryderon am fynd i glymblaid gyda dwy blaid fawr ar y dde.

Mae angen mwyafrif syml o fwy na’i 15,000 o Aelodau ar Fianna Fáil.

“Sialens enfawr”

Dywed Micheal Martin, arweinydd Fianna Fáil, bod y wlad yn wynebu “sialens enfawr” wrth ddelio â pandemig y coronafeirws.

Pan ofynnwyd iddo beth fydd yn digwydd os caiff y cytundeb ei wrthod, dywedodd Micheal Martin ei fod “yn meddwl y byddwn ni’n wynebu sefyllfa ansicr”.

“Mae yno lot fawr o waith ag amser wedi mynd i mewn i’r trafodaethau i greu’r rhaglen lywodraethol hwn,” meddai.

“Felly does yna ddim Cynllun B os yw’r cytundeb yn cael ei drechu”.

Aeth yn ei flaen i ddweud ei fod yn “bositif iawn” y bydd y cytundeb yn cael ei dderbyn.

Ategodd Leo Varadkar, arweinydd Fine Gael, sylwadau Micheal Martin wrth rybuddio nad oes “Cynllun B”.

“Dwi’n gwybod bod yno rai pobol yn fy mhlaid yn galw am gael Cynllun B wrth gefn, ond dwi wedi penderfynu yn erbyn hynny oherwydd ein bod wedi cynnal trafodaethau clymbleidiol gyda Fianna Fáil a’r Blaid Werdd mewn ewyllys da,” meddai wrth Newstalk FM.

“Os yw’r cytundeb yn cael ei threchu, bydd yn rhaid i ni eistedd dros y penwythnos a gweld beth yw’r opsiynau.”

Sinn Fein “heb geisio ffurfio llywodraeth”

Dywed Leo Varadkar mai bwriad gwreiddiol Fine Gael oedd gadael i Sinn Fein ffurfio llywodraeth, ond fod hynny heb ddigwydd.

Sinn Fein yw ail blaid fwyaf Iwerddon ar hyn o bryd, ar ôl ennill 36 o seddi yn etholiad cyffredinol fis Chwefror.

“Er gwaethaf eu protestiadau, wnaeth Sinn Fein erioed geisio ffurfio llywodraeth,” meddai.

“Wnaethon nhw ddim creu dogfen fframwaith gyda’r chwith.

“Fe bleidleision nhw dros Mary Lou [McDonald] i ddechrau, ond doedden nhw methu hyd yn oed cytuno ar bolisi cyffredin rhwng ei gilydd.

“O ystyried bod y chwith wedi methu gwireddu unrhyw un o’u haddewidion, roeddem ni’n teimlo y dylem gamu mewn oherwydd mai dyma oedd y cyfle gorau o bosib i ffurfio llywodraeth.”