Mae deiseb sydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu deddf i atal newid enwau Cymraeg tai yng Nghymru wedi ei llofnodi gan dros 5,000 o bobol, a hynny mewn ychydig dros 24 awr ers i’r ddeiseb gael ei chreu.

Pan fydd deiseb yn casglu dros 5,000 llofnod, bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried gofyn am ddadl yn Siambr y Senedd.

Eglurodd Robin Davies, a greodd y ddeiseb, mai wrth gerdded gyda’i deulu adeg y clo mawr y daeth i sylwi cymaint o dai yn yr ardal oedd wedi newid eu henwau o’r Gymraeg i’r Saesneg.

“Mae’n hawdd methu nhw wrth wibio heibio yn y car, ond wrth gerdded neu fynd ar y beic gyda’r plant yn y cyfnod yma dwi di sylwi bod cymaint o enghreifftiau o hyn yn ein cymunedau,” meddai.

“Colli enwau bendigedig”

Mae Robin Davies, sydd yn wreiddiol o Gaernarfon ond bellach yn byw yn Rhuthun, yn cydnabod nad oedd yn disgwyl i’r ddeiseb gyrraedd ei tharged o 5,000 o lofnodion mor gyflym.

“Ar ôl gweld neges gan y cyflwynydd Radio Aled Hughes ar Twitter yn cwyno am enwau ‘Paddleboard Cottage’ a ‘Honey Cottage’ yn Sir Fôn, dyma fi’n edrych i weld beth oedd modd i mi wneud am y peth,” meddai.

“Dwi erioed wedi creu deiseb o’r blaen felly gosodais amser o chwe mis yn meddwl byddai modd cael 5,000 o lofnodion erbyn mis Rhagfyr – ac ymhen 24 awr rydym ni wedi llwyddo – mae’r peth yn anhygoel!

“Rhaid cofio mae ’na esiamplau da – nid pawb sydd yn symud i Gymru sydd yn newid yr enwau, ond mae’n drist ofnadwy ein bod ni’n colli enwau bendigedig.

“Mae’r ddeiseb yn dangos y brwdfrydedd sydd gan bobol am y mater, a dwi wir yn gobeithio bydd yn cael ei drafod yn y siambr a bydd rhywbeth yn cael ei wneud am y peth.”

Ychwanegodd Robin Davies ei fod yn ddiolchgar i bawb sydd wedi arwyddo’r ddeiseb, ac mai ei obaith yn y pen draw yw y bydd rhaid i berchnogion tai sydd am newid enwau tai yng Nghymru wynebu pwyllgor er mwyn gwneud hynny.

Cefndir

Yn 2017 gwrthodwyd cynnig Dai Lloyd, Aelod Senedd Plaid Cymru tros Orllewin De Cymru, y dylid cyflwyno deddf a fyddai’n diogelu enwau llefydd hanesyddol yng Nghymru.

Roedd yr Aelod o Senedd Cymru wedi gofyn am ganiatâd y Cynulliad i gyflwyno’r bil a fyddai’n diogelu enwau lleoedd hanesyddol ym mhob iaith.