Mae prifathro Coleg Eton wedi ymddiheuro wrth gyn-ddisgybl croenddu am yr hiliaeth ddioddefodd o wrth astudio yno yn yr 1960au.
Mae’r awdur Dillibe Onyeama wedi dweud wrth y BBC ei fod o wedi cael ei fwlio yn ddyddiol yn ystod ei bedair blynedd yn yr ysgol.
Dywed fod cyd-fyfyrwyr yn arfer gweiddi sarhad hiliol arno, a’i fod yn cael ei gyhuddo o dwyllo pan oedd yn perfformio’n dda, tra roedd unrhyw ganlyniad gwael yn cael ei feio ar ei hîl.
Adroddodd Dillibe Onyeama, sydd â theulu’n hanu o Nigeria, ei brofiadau mewn llyfr pan ddaeth ei gyfnod yn yr ysgol i ben yn 1969.
Dair blynedd yn ddiweddarach, derbyniodd lythyr gan Eton yn dweud wrtho ei fod wedi ei wahardd rhag ymweld â’r ysgol.
Ymateb Eton
Dywed y prifathro presenol, Simon Henderson, fod yr hiliaeth ddioddefodd Dillibe Onyeama wedi ei “arswydo”.
“Does gan hiliaeth ddim lle mewn cymdeithas waraidd, ddim nawr na bryd hynny chwaith,” meddai wrth y BBC.
Mae “camau arwyddocaol” wedi cael eu cymryd ers cyfnod Dillibe Onyeama yn Eton meddai Simon Henderson.
“Mae’n rhaid i ni gyd godi ein llais ac ymrwymo i wneud yn well, ac rwyf yn benderfynol ein bod yn defnyddio’r foment hon fel catalydd am newid parhaol er gwell.”
Gwahoddiad
Mae Simon Henderson, sy’n brifathro ers 2015, wedi gwahodd Dillibe Onyeama i’w gyfarfod er mwyn iddo allu ymddiheuro’n bersonol ar ran yr ysgol, gan ychwanegu fod yna groeso i’r awdur yn Eton unrhyw bryd.
Yn ddiweddar, mae sefydliadau addysgiadol wedi dod o dan bwysau cynyddol i fynd i’r afael â hiliaeth a chynyddu amrywiaeth hîl ar eu campysau.
Daw hyn yn dilyn wythnosau o brotestiadau Black Lives Matter wedi eu sbarduno gan farwolaeth George Floyd.
Mae Coleg Eton yn codi ffioedd o fwy na £40,000 y flwyddyn ac ers 1945, mae pum prif weinidog wedi cael eu haddysgu yno, gan gynnwys Boris Johnson.