Mae’r ymateb i boster Black Lives Matter yn ffenest un o fusnesau Aberteifi’n destun “embaras” i’r drefn, yn ôl y perchnogion.
Er gwaetha’r ymateb, dywed perchnogion caffi a phopty Crwst fod y poster am aros, a bod angen i bobol “addysgu eu hunain”.
Wrth gwyno am y poster, mae unigolion wedi bod yn dweud bod “pob bywyd yn bwysig”, gyda rhai hyd yn oed yn cwyno bod y poster yn Gymraeg.
‘Y poster am aros’
“BYDD y poster yn aros yn y ffenest gan ein bod ni’n gefnogwyr balch o’r mudiad hwn,” meddai’r cwmni ar eu tudalen Facebook.
“Gorau po gynted y bydd pobol yn addysgu eu hunain.
“Aberteifi – pan fu argyfwng, rydyn ni’n adnabyddus am ddod ynghyd fel cymuned ac ymuno o amgylch y criw hwnnw.
“Edrychwch ar yr arian wnaethon ni ei godi ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn ystod y gwarchae.
“Edrychwch ar y gefnogaeth leol y gwnaeth pobol fregus ei derbyn yn ystod y gwarchae.
“Pwy sy’n cofio pan wnaethon ni baentio’r dref yn binc ar gyfer Gofal Canser Aberteifi?
“Ble’r oedd y bobol yn dweud ‘beth am salwch eraill’?
“Ble’r oedd y bobol yn boicotio siopau lleol oedd ag arddangosfa binc yn eu ffenest?”
‘Ymwybyddiaeth’
“Am noson o embaras i dref Aberteifi,” meddai’r neges wedyn.
“Dydy Black Lives Matter ddim yn diystyru unrhyw griw arall, mae’n codi ymwybyddiaeth o’r criw sydd angen y sylw NAWR.
“Dydy e ddim yn fater o ’mae pob bywyd yn bwysig’ tan fod bywydau duon yn bwysig hefyd.
“Byddwch ar yr ochr iawn i hanes.”
Mae’r neges wedi derbyn degau o ymatebion cadarnhaol yn cefnogi’r busnes.