Mae ffrind i’r tri dyn a gafodd eu llofruddio mewn ymosodiad brawychol yn Reading wedi talu teyrnged i “ddynion anhygoel, clên a hyfryd”.

Wrth siarad â BBC Breakfast, dywedodd Michael Main ei fod wedi adnabod Joe Ritchie-Bennett, James Furlong, a David Wails ers chwe blynedd ar ôl eu cyfarfod mewn tafarn.

Bu farw’r tri yn dilyn ymosodiad mewn parc ddydd Sadwrn (Mehefin 20).

“Yr hyn dwi’n ei gofio fwyaf am David yw ei hiwmor sych, y ffaith ei fod yn cymryd gwir ddiddordeb yn sut roeddet ti’n teimlo ac y byddai’n gwneud unrhyw beth drosot ti,” meddai wrth ddisgrifio David Wails.

Dywed ei fod yn ymwybodol o ddeiseb yn yr ysgol roedd James Furlong yn gweithio ynddi yn galw am enwi adeilad ar ei ôl.

“Roedd James yn athro angerddol, roedd yn wleidyddol iawn ac wedi gwirioni gyda hanes,” meddai am James Furlong.

“Dwi’n gwybod fod cyn-fyfyriwr wedi dweud ei fod yn athro ysbrydoledig.”

Ac wrth drafod Joe Ritchie-Bennett, dywed na “wnewch chi fyth ffeindio neb fel Joe.”

“Roedd yn ddoniol ac yn ddyn hapus, yn wir roedd yn ddyn unigryw,” meddai wedyn.

Dywed Michael Main fod ei ffrindiau wedi mynychu Reading Pride gyda’i gilydd a’i fod wedi bwriadu eu cyfarfod ar ddiwrnod yr ymosodiad cyn cael ei alw i mewn i’w waith.

Wrth gofio ei ffrindiau, dywed: “Rwy’n falch o’u galw nhw’n ffrindiau ac rwy’n falch fy mod wedi gallu treulio’r chwe blynedd diwethaf gyda nhw.

“Roedden nhw i gyd yn ddynion anhygoel, clên a hyfryd.

“Fydden nhw byth yn gwneud niwed i neb, roedden nhw mor glên.”