Mae ymgyrchydd o Gaerdydd wedi troi at y Llys Apêl i herio’r heddlu ar ôl iddyn nhw ddefnyddio technoleg adnabod wynebau i’w adnabod e ddwywaith.

Fe wnaeth Ed Bridges, 37, ddwyn achos yn yr Uchel Lys ar ôl honni bod ei lun wedi’i dynnu wrth iddo siopa ar gyfer y Nadolig yn 2017, ac unwaith eto wrth iddo brotestio yn erbyn arfau yn 2018.

Mae ei gyfreithwyr yn dadlau bod Heddlu’r De wedi ei aflonyddu ac wedi mynd yn groes i’w hawl i breifatrwydd yn ôl y Ddeddf Diogelu Data drwy brosesu lluniau ohono.

Cafodd ei achos ei wrthod gan yr Uchel Lys fis Medi y llynedd, wrth i farnwyr ddweud nad oedd y weithred yn un anghyfreithlon.

Ond mae e wedi cael yr hawl i fynd â’i achos i’r Llys Apêl, a bydd tri barnwr yn ystyried ei ddadleuon heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 23).

Mae mudiad Liberty yn cefnogi ei achos.

Adnabod wynebau

Mae technoleg adnabod wynebau’n adnabod wynebau mewn torf drwy fesur y pellter rhwng nodweddion, ac yn cymharu’r ddelwedd â chronfa o wynebau ar gyfrifiadur.

Gall y gronfa gynnwys pobol sydd wedi’u hamau o droseddau, pobol sydd ar goll a phobol “o ddiddordeb” y mae’r heddlu’n awyddus i siarad â nhw ynghylch troseddau.

Mae Heddlu’r De yn defnyddio’r dechnoleg ers 2017 gyda’r bwriad y bydd pob heddlu’n ei defnyddio yn y pen draw.