Mae protestwyr yn Washington wedi ceisio tynnu cofeb i Andrew Jackson, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau i lawr.

Maen nhw’n anhapus ynghylch y gofeb i gyn-Arlywydd oedd wedi camdrin llwythi brodorol y wlad, ac fe fu’n rhaid i’r heddlu chwistrellu pupur i’w gwasgaru yn Sgwâr Lafayette, lle cafodd yr Arlywydd Donald Trump ei weld fis diwethaf yn cael tynnu ei lun ger eglwys ar ôl i’r heddlu symud protestwyr oddi yno.

Roedd y protestwyr wedi dringo i ben y gofeb ac wedi clymu rhaffau o’i chwmpas cyn ceisio’i thynnu i lawr.

Mae’r gofeb yn dangos y cyn-Arlywydd yn ei wisg filwrol yn marchogaeth ceffyl.

Yn ôl yr Arlywydd Donald Trump, mae “nifer o bobol” wedi cael eu harestio am “fandaliaeth warthus”, ac mae’n rhybuddio y gallai’r sawl oedd yn gyfrifol dreulio hyd at ddeng mlynedd yn y carchar.

Mae’r llywodraeth yn dweud na fyddan nhw’n “ildio i anarchiaid”.