Mae dau frechlyn i drin y coronafeirws mewn anifeiliaid wedi bod yn llwyddiannus mewn profion labordy, meddai gwyddonwyr.

Dywed The Vaccine Group, cwmni o Brifysgol Plymouth, bod y datblygiad yn gam arwyddocaol.

Byddai brechlynnau o’r fath yn gallu cael eu defnyddio i sicrhau nad yw cathod nac anifeiliaid anwes eraill yn cario feirysau yn y dyfodol.

Mae’r cwmni hefyd yn cwblhau ymchwil ar frechlyn i bobol, gyda cham nesaf y datblygiad yn asesu pa mor ddiogel ac effeithlon yw’r dechnoleg ar gyfer pobol.

“Fel pob coronafeirws dynol, mae Sars-CoV-2 wedi dod o anifeiliaid yn wreiddiol,” meddai Dr Michael Jarvis, sylfaenydd The Vaccine Group.

“Mae ein brechlyn i’w weld yn gallu achosi imiwnedd rhag Sars-CoV-2.

“Rydym wedi bod yn profi pa mor effeithiol yw’r brechlyn mewn anifeiliaid a byddai data positif yn arwain at y posibilrwydd o droi at frechlyn i bobol.”

Mae gwaith ar y gweill i baratoi stoc o ddau frechlyn ar gyfer profion anifeiliaid, ac mae’r cwmni yn parhau i ddatblygu dau frechlyn posibl arall.