Mae Clwb Pêl-droed Burnley wedi beirniadu digwyddiad “sarhaus” yn ystod eu gêm yn erbyn Manchester City neithiwr (nos Lun, Mehefin 22), pan gafodd awyren yn dwyn y slogan ‘White Lives Matter’ ei hedfan uwchben y cae.
Maen nhw’n dweud bod y weithred yn un “sarhaus” sy’n mynd yn groes i’w hegwyddorion fel clwb, gan addo gwahardd am oes y rhai sy’n gyfrifol.
Roedd y ddau dîm yn gwisgo’r slogan ‘Black Lives Matter’ ar gefn eu crysau ar gyfer y gêm fel rhan o ymgyrch Uwch Gynghrair Lloegr i gefnogi’r mudiad gwrth-hiliaeth yn sgil llofruddiaeth George Floyd dan law’r heddlu yn yr Unol Daleithiau.
“Hoffem egluro nad oes croeso yn Turf Moor i’r sawl sy’n gyfrifol,” meddai’r clwb mewn datganiad.
“Dydy hyn ddim yn cynrychioli mewn unrhyw ffordd yr hyn mae Clwb Pêl-droed Burnley yn sefyll drosto, a byddwn yn cydweithio’n llawn â’r awdurdodau i adnabod y rhai sy’n gyfrifol a rhoi gwaharddiadau oes.
“Mae gan y clwb record falch o gydweithio â phob rhyw, crefydd a ffydd drwy ei gynllun cymunedol sydd wedi ennill gwobrau, ac rydym yn sefyll yn erbyn pob math o hiliaeth.”
Mae’r clwb wedi ymddiheuro wrth Uwch Gynghrair Lloegr, Clwb Pêl-droed Manchester City a “phawb sy’n helpu i hyrwyddo Black Lives Matter”.
Mae Kick It Out, ymgyrch yn erbyn hiliaeth yn y byd pêl-droed, yn dweud bod y weithred yn un ar sail “camddeall” ymgyrch Black Lives Matter.
DIWEDDARIAD: Dywed yr heddlu eu bod nhw’n ymchwilio i’r mater er mwyn penderfynu a gafodd unrhyw drosedd ei chyflawni.