Mae dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr gerllaw Abermaw yng Ngwynedd.

Cafodd yr heddlu a Gwylwyr y Glannau eu galw i’r digwyddiad ychydig cyn 2 o’r gloch bnawn Sul. Cafodd ei godi o’r môr ac aed ag ef i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans awyr, lle bu farw’n ddiweddarach.

Dywed Gwylwyr y Glannau i’w timau gael diwrnod prysur iawn yng Nghymru ddydd Sul.

Yn ogystal â’r digwyddiad yn y Bermo, cafodd Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Abersoch eu galw i helpu tri o bobl yn y môr ym Mhorth Neigwl. Roedd ar y bobl hyn angen gofal meddygol ac yn debygol o fod yn dioddef o hypothermia.

Cafodd tîm achub Aberdyfi hefyd eu galw allan bnawn Sul i achub tri o bobl o’r dŵr, a bu’n rhaid mynd ag un dyn i’r ysbyty.