Fe fydd tafarndai, caffis a thai bwyta yn cael agor y tu mewn yng Nghymru heddiw (Dydd Llun, Awst 3).

Hefyd, bydd hyd at 30 o bobl yn cael cyfarfod yn yr awyr agored ac ni fydd plant dan 11 oed yn gorfod cadw 2m o bellter oddi wrth ei gilydd nac oddi wrth oedolion – mae hyn yn unol â’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am gyfraddau trosglwyddo is ymhlith y grŵp oedran hwn.

Yn ogystal bydd lawntiau bowlio dan do, tai ocsiwn a neuaddau bingo yn cael ail-agor.

Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Gwener y bydd rhagor o gyfyngiadau yn cael eu llacio yn yr wythnosau nesaf, ond pwysleisiodd y Prif Weinidog bod gan bawb “gyfrifoldeb” i gadw Cymru’n ddiogel, ac y dylai pawb gadw at y rheolau pellter cymdeithasol os ydyn nhw yn mynd i dafarndai neu yn cyfarfod mewn grwpiau.

Os yw’r coronafeirws yn parhau o dan reolaeth, fe fydd canolfannau hamdden, pyllau nofio ac ardaloedd chwarae dan do yn cael agor ar Awst 10.

Prydau hanner pris

O heddiw ymlaen hefyd, fe fydd y cyhoedd yn gallu mwynhau prydau bwyd am hanner pris mewn tai bwyta, tafarndai a chaffis ledled Prydain.

Fe fydd y cynllun mewn grym o ddydd Llun i ddydd Mercher am weddill y mis. Fe fydd uchafswm o £10 y person i’r cymorthdal ac ni fydd yn cynnwys alcohol.

Ni fydd angen tocynnau er mwyn archebu byrddau, gan mai’r busnesau sy’n cymryd rhan yn y cynllun a fydd yn gyfrifol am hawlio’r disgownt o 50% yn ôl gan y Trysorlys.