Mae dau brawf ar gyfer coronafeirws a ffliw a all ddangos canlyniadau o fewn 90 munud wedi cael eu datblygu.

Fe fydd y profion swab a pheiriannau profi DNA yn galluogi clinigwyr i wahaniaethu rhwng Covid-19 – a fydd yn gofyn am hunan-ynysu – ac afiechydon tymhorol eraill.

Fe fydd hanner miliwn o’r profion swab ar gael o’r wythnos nesaf ymlaen mewn lleoliadau gofal oedolion a labordai yn Lloegr, gyda disgwyl i filynau yn rhagor gael eu defnyddio yn ddiweddarach eleni.

Mae disgwyl hefyd y bydd tua 5,000 o beiriannau profi DNA fod ar gael i gynnal bron i chwe miliwn o brofion dros y misoedd nesaf.