Mae dynes o Loegr wedi ymddangos yn y llys yn Malaysia, ac yn wynebu’r gosb eithaf am drywanu ei gŵr i farwolaeth,

Daw Samantha Jones, 51 oed yn wreiddiol o Wlad yr Haf.

Cyhuddwyd hi o drywanu ei gŵr, John William Jones,  i farwolaeth ar ôl i’r heddlu ddarganfod cyllell yng nghartref y cwpl lle bu ei gŵr farw fis Hydref 2018.

Cafodd John William Jones, sydd yn dad i ddau, ei eni a’i fagu yn Stourport a bu’n gwasanaethu fel diffoddwr tân mewn nifer o orsafoedd yng Nghaerwrangon.

Bu hefyd yn Brif Swyddog Tân yn Yeovil yng Ngwlad yr Hâf cyn symud i Malaysia gyda Samantha Jones 11 mlynedd yn ôl.

Mae’r Heddlu yn Malaysia yn dweud bod Samantha Jones wedi cyfaddef iddi drywanu ei gŵr yn y frest yn ystod dadl.