Mae o leiaf 21 o bobol wedi eu lladd yn dilyn ymosodiad ar garchar yn Afghanistan nos Sul (Awst 2).
Mae 42 o bobol eraill hefyd wedi cael eu clwyfo yn yr ymosodiad gan y grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd, ISIS.
Dywedodd llefarydd ar ran yr adran iechyd daleithiol yn Nwyrain Nangarhar i’r ymosodiad ddechrau pan ffwydrodd bom car wrth fynedfa’r carchar yn Jalalabad, prifddinas talaith Nangarhar.
Mae nifer o garcharorion hefyd wedi llwyddo i ddianc o’r carchar sy’n dal oddeutu 1,500 o garcharorion.
Nid yw’n glir a oedd yr ymosodiad wedi’i gynllunio er mwyn rhyddhau carcharorion penodol, ond mae nifer o garcharorion yn y carchar yn perthyn i’r Wladwriaeth Islamaidd.
Daw’r ymosodiad ddiwrnod ar ôl i uwch-gapten y wladwriaeth Islamaidd wedi ei ladd gan luoedd arbennig Afghanistan.