Mae John Hume, un o arweinwyr gwleidyddol amlycaf ac uchaf ei barch Gogledd Iwerddon, wedi marw’n 83 oed.

Enillodd cyn-arweinydd plaid yr SDLP wobr heddwch Nobel am ei ymdrechion wrth ddatblygu Cytundeb Gwener y Groglith i sicrhau heddwch yn y dalaith.

Roedd cyn-Aelod Seneddol Foyle wedi bod yn dioddef o dementia ers rhai blynyddoedd, ac roedd yn derbyn gofal mewn cartref nyrsio yn Derry.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu:

“Roedd gan bobl feddwl y byd ohono. Bydd pawb o’i deulu estynedig yn teimlo colled fawr ar ei ôl.

“Mae’n addas i ni yn y dyddiau rhyfedd ac ofnus hyn gofio’r ymadrodd a roddodd obaith i John ac i gymaint ohonom drwy’r adegau tywyll: fe orchfygwn ni.”

Cawr gwleidyddol

Dywedodd Tony Blair, y Prif Weinidog pan gafodd Cytundeb Gwener y Groglith ei arwyddo, fod John Hume wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’r broses heddwch.

“Roedd John Hume yn gawr gwleidyddol; proffwyd a wrthododd gredu bod yn rhaid i’r dyfodol fod yr un fath â’r gorffennol,” meddai.

“Roedd yn benderfynol fod heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn bosibl, bu wrthi’n ddiflino yn ei fynnu ac yn fythol greadigol wrth geisio ffyrdd o wneud iddo ddigwydd.

“Mewn unrhyw le, mewn unrhyw blaid, byddai wedi gallu dal ei ben yn uchel. Ro’n i’n ffodus o weithio gyda John ar Gytundeb Gwener y Groglith ond hefyd o ddod i’w adnabod flynyddoedd ynghynt.

“Fe wnaeth ddylanwadu fy ngwleidyddiaeth mewn llawer o ffyrdd, ond bydd ei gred mewn gweithio trwy wahaniaethau i gael cyfaddawd yn aros gyda fi am byth. Bydd colled fawr ar ei ôl.”