Er nad oes Eisteddfod Genedlaethol ‘draddodiadol’ i’w chynnal eleni mae rhaglen lawn o weithgareddau o bob math wedi’i threfnu i lenwi’r gofod yn ystod yr wythnos.
Dros y tri mis diwethaf mae cynnwys ar lein yr Eisteddfod AmGen eisoes wedi’i wylio dros 300,000 o weithiau ac mae Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, yn edrych ymlaen at her yr wythnos yma.
“Fel pawb arall, roedden ni’n teimlo’n anobeithiol iawn ar ddiwedd Mawrth pan fu’n rhaid i ni ohirio Eisteddfod Ceredigion am y tro, ond roedden ni’n benderfynol o’r cychwyn ein bod ni’n rhoi rhyw fath o flas o’r Eisteddfod i bobl, nid yn unig yn ystod ‘wythnos yr Eisteddfod’ ei hun ond hefyd yn ystod y cyfnod cloi.
“Mae’r ymateb wedi bod yn wych hyd yn hyn, ac ry’n ni’n gobeithio y caiff amserlen yr wythnos fawr yr un croeso brwd â’r misoedd diwethaf.
Mae Eisteddfod AmGen yn rhedeg tan ddydd Sadwrn gyda chynnwys ar-lein ar gael i’w wylio ar gyfrifon You Tube, Facebook, AM ac Instagram yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Mae’r rhaglen yr un mor eclectig ag Eisteddfod ‘arferol’,” meddai Betsan Moses.
“Bydd modd crwydro o le i le ar y Maes yn cael blas o’r ŵyl, a chan fod modd gwrando a gwylio’n ôl, gallwch osgoi’r hen ‘broblem’ eisteddfodol o orfod dewis rhwng dwy sesiwn ddifyr!”
Goreuon y gorffennol a chomisynau newydd
Mae amserlen yr Eisteddfod Amgen yn cynnwys y goreuon o Eisteddfodau’r gorffennol ynghyd â chomisiynau newydd sbon.
“Roedden ni eisoes wedi comisiynu sioe theatrig Lloergan fel un o gyngherddau’r flwyddyn nesaf”, meddai Betsan Moses.
“Ry’n ni wedi parhau gyda’r ymarferion côr cymunedol ar Zoom yn ystod y cyfnod cloi, a chawn fwynhau premiere o un o’r caneuon gan Griff Lynch, Lewys Wyn, Fflur Dafydd a Rhys Taylor yn ystod yr wythnos.
“Mae nifer wedi sôn bod ymarferion y côr wedi bod o gymorth mawr iddyn nhw gymdeithasu dros yr wythnosau diwethaf, felly mae’n braf ein bod ni wedi gallu cyfuno’r celfyddydau a lles mewn ffordd ymarferol a llawn mwynhad.”
Gobaith ar gyfer Tregaron 2021
Ychwanegodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ei bod hi’n “gobeithio’n arw y gallwn ddod ynghyd yn Nhregaron ymhen y flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.
“Mae’n rhyfeddol sut mae prosiectau’n gallu esblygu a thyfu mewn cyfnod mor fyr.
“Fydden ni erioed wedi credu wrth i ni gychwyn trafod AmGen ym mis Ebrill y bydden ni’n cyhoeddi rhaglen o 400 o weithgareddau ar gyfer dechrau Awst, gyda’r un nifer o weithgareddau eisoes wedi’u cynnal ar draws ein platfformau ers canol Mai!
“Alla i ddim aros i fwynhau rhaglen mor gyffrous o ddigwyddiadau a gweld sut brofiad yw Eisteddfod rithiol. Rwy’n siŵr y bydd yn brofiad fydd yn aros yn y cof, a hoffwn longyfarch y trefnwyr am wneud hyn yn bosibl.”
Mae amserlen dydd Llun (Awst 3) i’w weld ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.