Ddeufis yn unig ers ei lansio, mae cynnwys prosiect Eisteddfod AmGen wedi’i wylio dros 150,000 o weithiau yn ddigidol. yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dechreuodd y prosiect ym mis Mai yn dilyn y newyddion bod rhaid gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni oherwydd y coronafeirws.
Wrth i ‘wythnos yr Eisteddfod’ ddechrau Awst nesáu, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn awyddus i sicrhau bod cynifer o bobol â phosib yn cael blas ar yr Eisteddfod mewn ffordd gwbl wahanol eleni.
Siom o orfod gohirio’r Eisteddfod
“Er bod pawb yn disgwyl y newyddion, roedd pobol yn siomedig pan ddaeth y cyhoeddiad bod yn rhaid gohirio’r Eisteddfod eleni – a neb yn fwy na ni a’r criw o wirfoddolwyr yng Ngheredigion ac yn Llŷn ac Eifionydd,” meddai’r prif weithredwr Betsan Moses.
“Fe sbardunodd y siom ni i fynd ati i feddwl mewn ffordd gwbl wahanol – os nad oedd pobol yn gallu dod atom ni, yna, fe fydden ni’n mynd â rhywfaint o’r profiad eisteddfodol atyn nhw.
“Ac ry’n ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi, yn berfformwyr, siaradwyr, artistiaid, ond yn fwyaf oll, ry’n ni’n ddiolchgar i’r gynulleidfa sydd wedi gwrando a gwylio, rhai’n fyw a rhai drwy wylio eto ar ein gwefan, ar YouTube ac ar AM.
“Gwn fod nifer o bobl wedi defnyddio elfennau o dechnoleg am y tro cyntaf er mwyn iddyn nhw wylio sesiwn neu ddilyn y cwrs Cerdd Dafod neu Gerdd Dant.
“Mae ‘wythnos yr Eisteddfod’ yn prysur agosáu, ac erbyn hyn, fel rheol, byddai’r Maes yn tyfu ac yn datblygu’n ddyddiol.
“Ac mewn ffordd, mae hynny’n dal i ddigwydd gan ein bod ni’n gweithio ar raglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau.
“Bydd gennym ni raglen lawn o weithgareddau yn ystod yr wythnos ar draws nifer o blatfformau digidol a thraddodiadol er mwyn ceisio cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl.
“Y gobaith yw adeiladu ar lwyddiant y ddeufis cyntaf a rhoi digonedd o fwynhad i bobol o bob oed ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt.”