Mae tad a mab sy’n sêr y diwydiant ffilmiau Bollywood yn India yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ym Mumbai ar ôl profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

Mae Amitabh Bachchan a’i fab Abhishek wedi trydar i rannu’r newyddion â’u cefnogwyr ym mhob rhan o’r byd.

Dywed yr ysbyty fod Amitabh Bachchan, sy’n 77 oed, mewn cyflwr sefydlog mewn uned ynysu ar ôl cael symptomau ysgafn.

Mae wedi apelio ar i bobol sydd wedi dod i gysylltiad â fe dros y deg diwrnod diwethaf i fynd i gael prawf.

Mae ei fab 44 oed hefyd wedi trydar i ddweud iddo yntau hefyd gael symptomau ysgafn, gan alw ar i bobol beidio â mynd i banig.

Mae Aishwarya Rai Bachchan, un o’r actoresau mwyaf yn India a gwraig Abhishek Bachchan, a’u merch fach wyth oed hefyd wedi profi’n bositif, ond dydy hi ddim yn glir a ydyn nhw yn yr ysbyty neu’n ynysu yn eu cartref.

Y teulu Bachchan

Mae’r teulu’n un o’r rhai mwyaf adnabyddus yn hanes Bollywood.

Mae Amitabh Bachchan wedi serennu mewn mwy na 200 o ffilmiau dros gyfnod o bum degawd, ac mae’n gyn-wleidydd a chyflwynydd teledu.

Fe ddaeth i amlygrwydd yn 1973, gan fentro i’r byd gwleidyddol am gyfnod byr yn 1985 cyn gadael eto yng nghanol ffrae lygredd gweinyddiaeth y prif weinidog Rajiv Gandhi.

Fe ddychwelodd i fyd y ffilmiau yn y 1990au, gan ymddangos yn 2013 yn y ffilm Hollywood The Great Gatsby.

Mae e hefyd yn adnabyddus am gyflwyno fersiwn India o’r cwis Who Wants To Be A Millionaire?

Mae’n byw â chyflwr Hepatitis B ers dau ddegawd.

Mae ei wraig Jaya hefyd yn actores ac yn gyn-aelod seneddol, a’u mab Abhishek a’i wraig yntau Aishwarya Rai Bachchan ymhlith sêr mwya’r diwydiant dros y degawdau diwethaf.

Coronafeirws yn India

Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws mewn sawl dinas yn India yn uchel dros ben.

Ymhlith y dinasoedd lle mae’r cyfanswm mwyaf o achosion mae Mumbai, Delhi Newydd, Chennai, Pune a Bengaluru.

Fe fu bron i 850,000 o achosin yn y wlad hyd yn hyn, gyda 28,637 o achosion newydd dros gyfnod o 24 awr yn fwyaf diweddar.

Ond fel gwledydd Prydain, dydy’r union ffigurau ddim yn fanwl gywir oherwydd diffyg profion a phobol yn cael eu heintio heb symptomau.