Fe fydd Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, yn amlinellu ei system bwyntiau ar gyfer mewnfudwyr yfory (dydd Llun, Gorffennaf 12).

Mae disgwyl iddi ddweud bryd hynny fod “Prydain ar agor ar gyfer busnes” ac yn barod i groesawu’r “doniau byd-eang mwyaf disglair”.

Bydd y drefn newydd yn dod i rym ar Ionawr 1.

Bwriad y cynllun yw cwtogi nifer y gweithwyr â sgiliau lefel isel fydd yn cael dod i wledydd Prydain, ond fe ddylai fod yn haws i weithwyr â sgiliau lefel uchel gael fisa.

Bydd angen i bobol sydd am weithio yng ngwledydd Prydain sgorio o leiaf 70 o bwyntiau er mwyn bod yn gymwys ar gyfer fisa.

Bydd y gallu i siarad Saesneg, cael cynnig swydd gan gyflogwr cymwys ac ennill isafswm cyflog penodol yn rhan o’r gofynion.

Bydd fisa iechyd a gofal ar gael i weithwyr iechyd, tra bydd llwybr ar gael i raddedigion o dramor gael aros yng ngwledydd Prydain i weithio am ddwy flynedd ar ôl graddio.

‘Adennill rheolaeth ar ffiniau’

“Fe wnaeth pobol Prydain bleidleisio dros adennill rheolaeth ar ein ffiniau a chyflwyno system fewnfudo’n seiliedig ar bwyntiau,” meddai Priti Patel.

“Nawr ein bod ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae gennym rwydd hyn i ddad-gloi potensial llawn y wlad hon a chyflwyno’r newidiadau sydd eu hangen arnom i adfer ymddiriedaeth yn y system fewnfudo a chyflwyno system decach, fwy cadarn yn seiliedig ar sgiliau o Ionawr 1, 2021.

“Mae Prydain ar agor ar gyfer busnes ac yn barod i groesawu’r doniau byd-eang gorau a mwyaf disglair.”

Craffu yn sgil ‘pryderon gwrioneddol’

Dywed Nick Thomas-Symonds, Aelod Seneddol Llafur Torfan a llefarydd materion cartref y blaid yn San Steffan, fod y blaid yn barod i graffu’n ofalus ar y cynlluniau fisa.

“Byddwn ni’n craffu’n ofalus iawn y cynlluniau ar fisas,” meddai.

“Mae’r Llywodraeth wedi rhuthro wrth gyflwyno deddfwriaeth fewnfudo heb fawr o fanylion yng nghanol pandemig byd-eang.

“Mae yna bryderon gwirioneddol y bydd hyn yn achosi problemau mawr i’n Gwasanaeth Iechyd a’n sector gofal, ar adeg pan ydyn ni’n aros i’r Llywodraeth wireddu eu haddewid o ddileu’r gor-dâl iechyd annheg i fewnfudwyr oedd yn wynebu tâl i gael mynediad i’r union wasanaethau roedden nhw’n eu cynnal er mwyn helpu eraill yn ystod y cyfnod mwyaf anodd.”