Mae cyn-bennaeth MI6 yn dweud ei fod e’n falch nad yw Jeremy Corbyn yn dal i arwain y Blaid Lafur.

Dywed Syr Richard Dearlove ei fod e’n croesawu ethol Syr Keir Starmer yn arweinydd newydd y blaid, ar ôl dweud yn ystod yr etholiad cyffredinol y llynedd fod y cyn-arweinydd yn “fygythiad i’n gwlad”.

Daw ei sylwadau wrth iddo siarad â rhaglen Andrew Marr ar y BBC.

“Dw i’n sicr yn falch ei fod e wedi mynd,” meddai am Jeremy Corbyn.

“Dw i’n credu bod fy safbwyntiau personol cryf am Corbyn fel darpar brif weinidog yn hysbys ac yn cael eu deall yn eang.

“Mae’n destun rhyddhad nad yw e bellach yn arweinydd y Blaid Lafur.

“O ran Keir Starmer, mae’n ymddangos i fi fel y math o arweinydd Llafur y byddem yn ei ddisgwyl ac yn bersonol, dw i’n teimlo’n fodlon a hapus gyda’r ffaith ei fod e bellach yn arwain y Blaid Lafur.

“Efallai nad ydw i’n ei gefnogi fe’n wleidyddol ond dw i ddim yn gweld ailadrodd y math o broblemau gawson ni gyda Jeremy Corbyn, dim o gwbl mewn gwirionedd.”