Byddai cynnal pleidlais ar ffiniau Iwerddon “ar hyn o bryd yn creu gormod o rwyg”, yn ôl y Taoiseach Micheal Martin.Wrth ymateb i alwadau gan Sinn Fein yn sgil Brexit, dywed ei fod e am ganolbwyntio ar fagu perthnasau ar draws yr ynys mewn ysbryd o “heddwch a chytgord”.

Fel rhan o lywodraeth glymblaid newydd Iwerddon, mae Adran y Taoiseach yn cynnwys adran Iwerddon gyfan sy’n “datblygu syniadau ffres” am ddyfodol y wlad.

Dywed Micheal Martin ei fod e am gael “mwy o fomentwm o ran agwedd gogledd-de Cytundeb Gwener y Groglith yn nhermau prosiectau a gweithgarwch economaidd ymarferol a phragmataidd”.

Daw ei sylwadau wrth iddo ymddangos ar raglen Andrew Marr ar y BBC heddiw.

“Dw i’n meddwl, i fi, mae pôl ffiniau’n creu llawer gormod o rwyg ar hyn o bryd,” meddai.

“Dyw e ddim yn ymdrin â’r mater llawer mwy sylfaenol o sut rydyn ni’n parhau i gyd-fyw a chydweithio wrth i ni fyw ar yr ynys hon, yn enwedig mewn sefyllfa ôl-Brexit.”

Brexit

Mae Micheal Martin yn galw am ragor o fanylion ynghylch y trefniadau ar gyfer Iwerddon ar ôl Brexit.

“Dw i’n credu y bu peth cynnydd yn nhermau papur gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae angen mwy o fanylion a manylder arnon ni,” meddai.

“Dw i’n credu bod angen chwistrelliad o fomentwm arnon ni o ran y trafodaethau ar y cyfan rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig mewn perthynas â Brexit.”

Tra ei fod e’n dweud bod rhaid sicrhau cytundebau masnach fel rhan o’r trafodaethau, mae hefyd yn dweud bod pwnc cyfiawnder yn “un o nifer o bwyntiau” sy’n achosi oedi.