Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Yn yr oes ddi-lyfrgell sydd ohoni, does dim dewis ond troi at bethau sydd eisoes ar y silff, i’w hail ddarllen. Moddion O Fag Y Meddyg ydi’r arlwy-erchwyn-gwely ar hyn o bryd, sef cyfrol ddifyr gan y diweddar hen gyfaill diwylliedig Dr Eddie Davies, gŵr o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol ond un a dreuliodd flynyddoedd lawer wedyn yn rhoi gofal i drigolion Cerrigydrudion ac Uwchaled.