Mae disgwyl i storm drofannol Isaias daro dwyrain Florida yn yr Unol Daleithiau heddiw (Awst 3).

Mae’r storm drofannol yn agosau at gryfder corwynt.

Wedi cynydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws yn Florida yn ddiweddar, roedd bygythiad ychwanegol y storm yn codi’r pryder i’r awdurdodau.

Yn sgil y storm drofannol bu rhaid cau traethau, parciau a safleoedd profi coronafeirws.

Mae’r awdurdodau yn rhagweld y bydd y storm yn amharu ar gyflenwad trydan ac wedi gofyn i breswylwyr baratoi.

Dinistr yn y Caribî

Mae’r storm drofannol eisoes wedi achosi dinistr yn y Caribî.

Dydd Iau diwethaf (Gorffennaf 30) achoswyd llifogydd a thirlithiadau yn y Weriniaeth Ddominicaidd a Puerto Rico.

Er i o leiaf 35 o bobl gael eu hachub o’r llifogydd bu farw un dyn yn y Weriniaeth Ddominicaidd ac un ddynes yn Puerto Rico.