Mae gwyddonydd yn rhybuddio y gallai “anghywirdebau” a “dehongliad gwael” o ddata profion arwain at gamgymeriadau ynghylch cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws.

Dywedodd Carl Heneghan, Athro Meddygaeth Seiliedig ar Dystiolaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, fod potensial i ganlyniadau cadarnhaol ffug – pobl sydd heb y clefyd ond yn profi’n gadarnhaol – awgrymu cynnydd “sylweddol” mewn achosion cymunedol.

Daw ei sylwadau ar ôl i gyfyngiadau newydd gael eu gosod mewn rhannau o ogledd-orllewin Lloegr oherwydd cynnydd mewn cyfraddau trosglwyddo Covid-19.

‘Hanfodol’

Wrth ysgrifennu ar wefan y Ganolfan ar gyfer Meddygaeth ar sail Tystiolaeth (CEBM) ddydd Sul, dywedodd yr Athro Heneghan ei bod yn “hanfodol” addasu nifer yr achosion mewn cymhariaeth â nifer y profion a oedd yn cael eu cynnal.

Dywedodd fod y data o brofion yn Lloegr o fis Gorffennaf ymlaen yn dangos y tueddiad o gynnydd yn nifer yr achosion –  tua 500 y dydd mewn gwirionedd – fel bron i 750.

Dywedodd fod y cynnydd yn nifer yr achosion a ganfuwyd yn debygol o fod o ganlyniad i’r cynnydd mewn profi yn y gymuned, gyda Chaerlŷr ac Oldham,  dwy ardal sydd wedi bod yn destun cyfyngiadau pellach oherwydd cynnydd mewn achosion.

Achosion ffug

“Mae’n hanfodol addasu ar gyfer y nifer o brofion sy’n cael eu gwneud,” meddai’r Athro Carl Heneghan.

“Mae Caerlŷr ac Oldham wedi gweld cynnydd sylweddol mewn profi mewn cyfnod byr.

“Gwnaeth Caerlŷr, er enghraifft, yn ystod pythefnos cyntaf mis Gorffennaf, fwy o brofion nag unman arall yn Lloegr: 15,122 o brofion wedi’u cwblhau yn y pythefnos hyd at Orffennaf 13.

“Mae potensial sylweddol i achosion cadarnhaol ffug yrru’r cynnydd yn yr achos yn y gymuned, yn enwedig gan fod cywirdeb y prawf a chanfod firysau hyfyw mewn lleoliad cymunedol yn aneglur.

“Bydd safoni achosion fesul prawf a wneir, a chysoni’r cyfrifon mewn gwahanol setiau data i ddarparu’r un rhifau, yn caniatáu gwell dealltwriaeth a yw achosion yn mynd i fyny neu i lawr.

“Bydd anghywirdebau yn y data a dehongli gwael yn aml yn arwain at wallau mewn penderfyniadau ynghylch gosod cyfyngiadau, yn enwedig os yw’r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud ar frys ac nad yw’r dehongliad yn cyfrif am amrywiadau yn y cyfraddau profi.”