Mae dynes o Loegr a drywanodd ei gŵr i farwolaeth yn Malaysia wedi osgoi’r gosb eithaf ac wedi ei dedfrydu i 42 mis yn y carchar.

Daw Samantha Jones, 51 oed yn wreiddiol o Wlad yr Haf.

Cyhuddwyd hi o lofruddio ei gŵr, John William Jones ar ôl i’r heddlu ddarganfod cyllell yng nghartref y cwpl lle bu ei gŵr farw fis Hydref 2018.

Symudodd y cwpl, a oedd yn briod am 17 mlynedd, i Malaysia 11 mlynedd yn ôl.

‘Dim bwriad ganddi’

Mae’r gosb eithaf o ddienyddio trwy grogi yn orfodol am euogfarnau o lofruddiaeth ym Malaysia.

Fodd bynnag, dywedodd ei chyfreithiwr fod yr erlynwyr wedi lleihau’r cyhuddiad i ddynladdiad wedi i’r amddiffyniad apelio i Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol.

“Doedd dim bwriad ganddi i wneud yr hyn ddigwyddodd”, meddai.

“Yn anffodus, roedd Samantha yn cael ei cham-drin.

“Roedd wedi cefnogi John trwy therapïau amrywiol i fynd i’r afael â phroblemau penodol oedd ganddo, ond nid oedd yr un ohonynt yn gweithio.

“Ar y noson anffodus honno mi wnaeth pethau gymryd tro am y gwaethaf,” meddai’r cyfreithiwr.

Yn ogystal â’r ddedfryd o 42 mis yn y carchar, dywedodd y cyfreithiwr fod Samantha Jones hefyd wedi cael dirwy o 10,000 ringgit (£1,800).

Ar ôl treulio 20 mis yn y ddalfa mae’n bosib bydd Samantha Jones yn gallu cael ei rhyddhau ddiwedd y flwyddyn nesaf.