Rhoddwyd grym Gorchymyn Gwasgaru i’r heddlu ym Mhorthmadog i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref ddydd Sadwrn, Awst 1.
Roedd y Gorchymyn yn rhedeg o 2pm ddydd Sadwrn am 48 awr tan 2pm ddydd Llun, Awst 3 ac yn cwmpasu canol y dref.
Mae’r grym yn galluogi swyddogion a PCSOs i gyfarwyddo unigolion y mae’n nhw’n credu y gallen nhw gyflawni trosedd neu anrhefn i adael ardal benodol am hyd at 48 awr. Mi fydd methu â chydymffurfio â’r Gorchymyn yn arwain at arestio, yn ôl yr heddlu.
Pobl yn yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus
Rhoddwyd y Gorchymyn Gwasgaru yn dilyn cynnydd yn y galwadau am bobl yn ymgasglu yng nghanol tref Porthmadog ac yn yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus.
Roedd hyn yn cynnwys adroddiadau am bobl yn ymddwyn mewn modd anghymdeithasol hyd oriau mân y bore.
“Rydym yn cymryd y camau angenrheidiol hyn i amddiffyn y gymuned leol” meddai Sarjant Colin Jones.
“Ni ddylai’r gymuned orfod profi neu ddioddef ymddygiad o’r fath a fu’n amlwg yn yr wythnosau diwethaf. Mae torri’r Gorchymyn hwn yn drosedd a all arwain at arestio ac erlyn. ”
Lleiafrif bach yn amharu ar gymuned
Yn ôl y Cynghorydd Sir Nia Jeffreys, mae’n siomedig fod criw bychan iawn wedi amharu ar dawelwch y dref, yn enwedig ar ôl i’r gymuned gydweithio mor dda a chefnogi ei gilydd dros y cyfnod clo.
“Mae lleiafrif bach iawn o bobl wedi bod yn cynnal partïon yn ardal Llyn Bach yn y dref, ac mae’n bwysig pwysleisio mai lleiafrif bach ydi rhain gan fod y gymuned wedi gweithio’n dda a helpu ei gilydd yn ystod y pandemig.
“Roedd criw o bobl wedi bod yn cynnal partïon yn hwyr yn y nos, gweiddi, chwarae miwsig uchel, pobl yn yfed hyd nes 3 o’r gloch y bore, a hyd yn oed ar rai achosion yn cynnau tan gwyllt yn hwyr y nos.
“Roedd y bobl leol wedi blino’n lân am nad oedden nhw’n medru cael cwsg, felly rydw i’n hynod o ddiolchgar i’r heddlu mewn amser lle mae’n nhw dan lot o bwysau beth bynnag.
“Roedd y Cyngor hefyd wedi symud y meinciau picnic o’r safle fel nad oedd na le i bobl eistedd i yfed, ond gobeithio mai mesur dros dro fydd hwnnw achos, wrth gwrs, mae’n annheg iawn fod pawb yn dioddef am fod lleiafrif bach wedi bod yn gwneud twrw.”
Wyth awr o gwsg o’r diwedd
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys hefyd ei bod wedi derbyn neges fore dydd Sul gan un o’r trigolion sydd yn byw yn agos yn diolch gan eu bod wedi cael ‘wyth awr o gwsg o’r diwedd’.
“Felly mae’r mesurau a’r gorchymyn wedi gweithio’n reit dda hyd yma” meddai, “felly dwi’n obeithiol ein bod ni wedi torri’r patrwm o bobl yn ymgynnull yn Llyn Bach.”