Yn ogystal â’r Eisteddfod Genedlaethol oedd i’w chynnal yr wythnos hon, mae sawl Eisteddfod leol wedi gorfod cael eu gohirio neu eu canslo oherwydd y coronafeirws eleni.
Ond Eisteddfod Gadeiriol Chwilog, yng Ngwynedd, yw’r cyntaf i benderfynu canslo’r flwyddyn nesaf.
Roedd disgwyl i’r Eisteddfod gael ei chynnal yn Neuadd Goffa Chwilog fis Ionawr 2021.
Eglurodd Gwyn Parry Williams, Ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol Chwilog wrth Golwg360 i’r pwyllgor, a fu’n cyfarfod dros y we yn ddiweddar, iddyn nhw ddod i benderfyniad unfrydol.
“Fel rheol Eisteddfod Chwilog ydy’r Eisteddfod gyntaf yn y flwyddyn”, meddai.
“Mi oedd yna sawl ffactor i’w ystyried, yr ymbellhau cymdeithasol wrth gwrs, ac mae rhaid ystyried fod sawl aelod o’r pwyllgor mewn oedran.”
Marc cwestiwn
Yn ôl Gwyn Parry Williams, sydd hefyd yn Ysgrifennydd Eisteddfodau Gogledd Cymru, mae marc cwestiwn dros bob Eisteddfod, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol sydd fod i gael ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst 2021.
“Mae yn sefyllfa bryderus ond ar y llaw arall mi oeddem ni’n lwcus iawn, bu modd i ni gynnal ein Eisteddfod fis Ionawr eleni tra bod Eisteddfodau eraill oedd yn cael eu cynnal yn hwyrach yn y flwyddyn gorfod cael eu canslo.
“Unwaith bydd yna sicrwydd o frechiad bydd modd i ni drefnu ymlaen.
“Fel rheol rydym yn cyhoeddi rhaglen Eisteddfod Chwilog yn barod ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, a dyna un o’r rhesymau pam doedden ni ddim eisiau mynd i’r gost o argraffu rhaglenni a gorfod canslo’r Eisteddfod yn agosach i’r amser.
“Mae’r neuadd yn orlawn gyda’r nos fel arfer a byddai ddim yn bosib cynnal yr Eisteddfod gyda’r fath gynulleidfa.
“Dwi’n hyderu yn fawr y bydd y sefyllfa wedi gwella erbyn y flwyddyn ganlynol, a bydd modd i ni gael eisteddfod lwyddiannus yn 2022.”