Rydan ni’n tueddu i feddwl am y boi ar y bass fel elfen ymylol o fand roc, yn cymryd ei ordors gan y canwr a’r prif gitarydd.

Ond mewn gwirionedd mae yna lwyth o chwaraewyr gitâr bass sydd wedi bod yn greiddiol i rai o’r caneuon roc gorau erioed.

Mae pawb yn gwybod am ddoniau Paul McCartney, basydd y Beatles.

Ymysg y lleill mae Sting, Phil Lynott canwr Thin Lizzy, Lemmy o Motorhead, a Geezer Butler wnaeth sgrifennu ‘Paranoid’ i Black Sabbath.