Un o bleserau Twitter i fi yw’r gwasanaeth gwych ma fe’n darparu o ran tynnu sylw at dwpdra yn y Wasg Brydeinig. Does dim hyd yn oed raid inni fynd i edrych am enghreifftiau y dyddiau hyn – neith rhyw drydarwr gyflwyno fe ar blât.

Na’i gyd sy’ rhaid ichi ’neud yw ishte nôl, pipo ar eich ffôn o bryd i’w gilydd, ac nawr ac yn y man fe gewch chi wledd o dwpdra gogoneddus i chwerthin amdano.