Mae Llywydd Senedd Cymru wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg ei bod yn “siomedig” gyda’r cwymp yn nefnydd yr Aelodau o’r iaith Gymraeg.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae defnydd o’r iaith wedi cwympo am y drydedd flwyddyn yn olynol mewn cyfarfodydd llawn yn y Siambr ac mewn pwyllgorau.

Ac mae ystadegau’r Senedd hefyd yn dangos cwymp mewn cwestiynau llafar, cwestiynau ysgrifenedig, cwestiynau amserol, a gwelliannau sy’n cael eu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg.