Canol y 1980au oedd hi, mewn cyfnod o gythrwfl gwleidyddol. Bar gwin oedd o, rhywle yn nyfnderoedd Strasbourg a finnau yno, yn newyddiadurwr, yng nghwmni dau neu dri o Aelodau Senedd Ewrop o Gymru.

Nhw oedd wedi mynd â fi a chydweithwyr yno … roedd wythnosau ysbeidiol y Senedd Ewropeaidd yn Strasbourg yn enwog am eu cymdeithasu a’r criw Llafur o Gymru, rhai fel Ann Clwyd, Allan Rogers a Win Griffiths, yn gwmni da.