Yr hen a ŵyr…

Dyw pobol ifanc Cymru ddim yn cymryd yr argyfwng Covid-19 yn ddifrifol, a rhaid mynd i’r afael â hynny.

Dyna wnaeth Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, ei gydnabod mewn cynhadledd i’r Wasg ddechrau’r wythnos.

Dros yr wythnosau diwetha’ mae torfeydd o bobol ifanc wedi bod yn ymgynnull ac yn yfed mewn grwpiau mawr ym Mae Caerdydd.