Mae arbenigwr iechyd wedi rhannu ei bryderon am y naid yn nifer yr achosion Covid-19 yng ngogledd Lloegr – a goblygiadau hynny i ogledd Cymru.

Ddiwedd mis diwetha’ mi gyhoeddodd Llywodraeth Prydain eu bod yn ailgyflwyno rhai cyfyngiadau mewn sawl rhan o ogledd-orllewin Lloegr.

Manceinion, Sir Gaerhirfryn, a Swydd Efrog sydd wedi’u heffeithio, a bellach dyw pobol yr ardaloedd yma ddim yn cael cymdeithasu â phobol y tu hwnt i’w haelwydydd.