Mae eisiau “dwyn sylw a diogelu” yr englynion sydd i’w gweld ar gerrig beddi ar hyd a lled Cymru a thros y byd, yn ôl ieithydd – ac fe allwch chi helpu…

“Mae englynion bedd wedi bod yn rhan greiddiol o brofiad bywyd cannoedd o filoedd o bobol.”

Dyna eiriau’r ieithydd Guto Rhys, sy’n credu bod eisiau tynnu sylw pobol at draddodiad hir ac unigryw’r englynion bedd.