Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, yn pwyso ar y niferoedd uwch nag erioed sy’n dysgu Cymraeg ar y we i gymryd rhan yn Eisteddfod AmGen eleni.

Wrth siarad yn y Brifwyl rithiol, dywedodd y Gweinidog ei bod wrth ei bodd yn clywed mai’r Gymraeg yw’r seithfed iaith fwyaf poblogaidd i’w dysgu ar ap iaith Duolingo ym Mhrydain bellach – a’i bod felly yn fwy poblogaidd na Tsieineeg. Fe wnaeth mwy o bobl nag erioed ym Mhrydain gofrestru i ddysgu Cymraeg ar yr ap rhwng Mawrth a Mehefin eleni.

Yn ôl y Gweinidog, mae’r cyfnod clo yn rhoi’r cyfle perffaith i bobl fireinio eu sgiliau Cymraeg.

“Mae’n wych gweld cymaint o bobl yn achub ar y cyfle i ddefnyddio technoleg i wella eu Cymraeg,” meddai.

“Gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd yn gweld cynnydd nodedig yn y bobl sy’n cofrestru i ddysgu ar-lein, mae’n dangos sut y gall technoleg ei gwneud yn bosibl i genhedlaeth newydd ddysgu’r Gymraeg.

“Mae’n siom na all yr Eisteddfod ddigwydd fel arfer eleni, ond dw i’n ei llongyfarch am greu AmGen a dw i’n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn panel i drafod gwahanol agweddau ar ddwyieithrwydd yng Nghymru.

“Mae dyfnhau ein dealltwriaeth o ddwyieithrwydd yn rhan allweddol o’n hymdrechion i hyrwyddo’n strategaeth am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Gweithgareddau

Mae’r Eisteddfod Amgen yn cynnwys gweithgareddau dyddiol, fel sesiynau blasu Cymraeg, a digwyddiadau i ddysgwyr.

Bydd yna ddigwyddiadau hefyd i roi cyfleoedd i blant barhau i siarad a chlywed y Gymraeg y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys straeon, gemau a chrefftau, a chaiff hyn ei gysylltu ag ymgyrch Llond Haf o Gymraeg.