Mae’r seren ffilmiau Bollywood Amitabh Bachchan wedi cael mynd adref o’r ysbyty ym Mumbai ar ôl gwella o’r coronafeirws.

Fe fu yn yr ysbyty am dair wythnos ar ôl iddo fe, ei fab Abhishek a’i wraig yntau Aishwarya Rai a’u merch fach wyth oed i gyd gael eu heintio.

Mae Abhishek Bachchan yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty, ond mae ei wraig a’u merch fach wedi cael mynd adref ers yr wythnos ddiwethaf.

Mae Amitabh Bachchan wedi serennu mewn mwy na 200 o ffilmiau dros gyfnod o bum degawd, ac mae’n gyn-wleidydd a chyflwynydd teledu.