Mae un person yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Corsa a cherddwr ym Merthyr Tudful.

Fe ddigwyddodd ar Hen Ffordd Gellifaelog ger y cyffordd â’r Stryd Fawr a’r Heol Newydd, Dowlais am oddeutu 10.05 neithiwr (nos Sadwrn, Awst 1).

Cafodd dau ddyn, 25 a 29 oed, eu harestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n ddiofal a gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Cafodd y dyn 29 oed ei arestio hefyd ar amheuaeth o fod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae’r dyn 25 oed wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.