Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn dal i gynyddu’n sylweddol mewn sawl rhan o’r byd.
Cafodd bron i 55,000 o achosion newydd eu hadrodd yn India heddiw (dydd Sul, Awst 2), i lawr o 57,118 ddoe (dydd Sadwrn, Awst 1), ac mae disgwyl i’r cyfyngiadau yno fod yn eu lle tan Awst 31.
Mae mwy na 1,500 o achosion yn Japan am yr ail ddiwrnod yn olynol, ond y rhan fwyaf ohonyn nhw’n cael eu trosglwyddo o fewn teuluoedd yn unig, ac mae pryderon mai pobol yn eu 20au a’u 30au yw rhan fwya’r bobol sy’n cael eu heintio.
Ac yn Fflorida, mae pryderon y gallai storm drofannol amharu ar ymdrechion yr awdurdodau i fynd i’r afael â’r feirws yn y dalaith, gyda channoedd o achosion newydd wedi’u hadrodd.
Yn Awstralia, mae cyfyngiadau wedi’u cyflwyno eto ym Melbourne, gan gynnwys cyrffiw dros nos ac atal plant rhag mynd i’r ysgol ac i wasanaethau gofal dydd.
Mae’r Unol Daleithiau, India a De Affrica’n dal i frwydro i reoli’r don gyntaf.
Er bod achosion newydd yn Tsieina, Hong Kong a De Corea, mae’n ymddangos bod cyfradd yr ymlediad yn dechrau arafu.
Mae nifer yr achosion yn Ne Affrica bellach yn 503,290, sy’n rhoi’r wlad yn bumed ar restr y gwledydd sydd â’r nifer fwyaf o achosion – dim ond yr Unol Daleithiau, Brasil, Rwsia ac India sydd uwch eu pennau, er bod poblogaeth De Affrica is o lawer na’r un o’r gwledydd hynny.
Mae nifer yr achosion dyddiol newydd yn yr Eidal yn is na 300 am y tro cyntaf.