Mae adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig yn tynnu sylw at y gwendid ym mherthynas pedair gwlad Prydain â’i gilydd.

Mae’r adroddiad, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Medi 22), yn tynnu ar sylwadau gwleidyddion a staff seneddol wrth ymchwilio i sut mae’r gwledydd wedi addasu i ddatganoli.

Yn ôl yr adroddiad, prin yw’r cyfleoedd sydd gan Aelodau o’r Senedd yng Nghymru i gydweithio a rhannu gwybodaeth â chydweithwyr yn seneddau eraill gwledydd Prydain, ac mae’r systemau sydd ar waith yn rhy “ad hoc ac anffurfiol”.

Mae’r adroddiad yn nodi bod diffyg strwythurau cydweithio rhwng y llywodraethau a’r cyswllt dydd i ddydd rhwng seneddwyr a phwyllgorau’n “fater sylweddol” ac er bod datganoli yn ei le ers ugain mlynedd, prin yw’r ymdrechion a gafwyd i sicrhau bod y gwaith ar y cyd rhwng llywodraethau’n ddigon effeithiol ac i graffu ar y gwaith hwnnw.

Pryderon cynyddol ar ôl Brexit

Yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig, mae sefyllfa oedd yn ymddangos yn gymharol ddi-nod yn y gorffennol yn bwysicach ers Brexit.

Maen nhw’n dadlau y bydd polisïau’n amrywio mwy ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, a hynny wrth i Lywodraeth Prydain geisio crafu pwerau’n ôl o Frwsel.

A fydd yr amrywio hwn yn beth positif sy’n gwestiwn arall, yn ôl y Sefydliad, sy’n cyfeirio at y dadleuon ynghylch dulliau’r llywodraethau gwahanol o fynd i’r afael â’r coronafeirws, a’r ffrae danllyd am Fil y Farchnad Fewnol a’r cyhuddiadau bod Llywodraeth Prydain yn ceisio cipio grym oddi ar y llywodraethau datganoledig.

Dywed y Sefydliad fod y materion hyn yn tynnu sylw at y posibilrwydd y gallai’r llywodraethau gydweithio mwy er mwyn esgor ar gydsyniad a llunio deddfwriaeth addas i’r pedair gwlad.

Argymhellion

Yn eu hadroddiad, mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn cynnig pump o argymhellion i ddatrys y sefyllfa:

  • Arbrofi, cymryd risgiau a dysgu wrth wneud a hynny drwy sefydlu gweithgor gyda chynrychiolwyr o bob llywodraeth
  • Ffurfioli rôl y seneddau wrth graffu ar y berthynas rhwng y llywodraethau
  • Cryfhau rôl y seneddau datganoledig wrth roi cydsyniad deddfwriaethol, gan gynnwys rhoi trefn ar waith sy’n atal Llywodraeth Prydain rhag gweithredu ar ôl i’r llywodraethau datganoledig wrthod rhoi caniatâd
  • Dysgu o arfer dda – dylai Fforwm Brexit fod yn fan cychwyn i sefydlu arfer dda, a chomisiynu ymchwil ar berthynas y llywodraethau â’i gilydd
  • Gwella’r wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd am berthnasau rhyng-lywodraethol a gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau bod pobol yn deall prosesau newydd

Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywed Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, nad yw San Steffan “wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol ddigonol i ddatganoli dros yr ugain mlynedd diwethaf”.