Mae Daniel Wells, y chwaraewr snwcer o Gastell-nedd, wedi tynnu’n ôl o gystadleuaeth Meistri Ewrop ar ôl profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

Mae e’n un o ddau chwaraewr sydd wedi cael prawf positif, ynghyd â Gary Wilson, ond mae Elliot Slessor a David Lilley hefyd wedi dod i gysylltiad â Gary Wilson.

Cafodd y chwaraewyr a swyddogion brofion wrth gyrraedd Milton Keynes cyn dechrau’r gystadleuaeth.

Bydd gwrthwynebwyr y pedwar chwaraewr dan sylw yn cael mynd ymlaen i’r rownd nesaf, sef Ronnie O’Sullivan, David Gilbert, James Cahill a Duane Jones.

Bydd y pedwar sydd wedi tynnu’n ôl yn gorfod hunanynysu.