Fe allai Alan Tate, is-hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe, gael ei gosbi am ei ran mewn ffrwgwd yn ystod y gêm yn erbyn Birmingham ddydd Sadwrn (Medi 19).

Bydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn ystyried adroddiad y dyfarnwr cyn penderfynu ar y cam nesaf.

Mae’n ymddangos ei fod e wedi gafael yng ngwddf Jon Toral, chwaraewr Birmingham, wrth i’r chwaraewyr adael y cae ar yr egwyl.

Roedd ffrwgwd rhwng y chwaraewyr yn dilyn y digwyddiad hwnnw.

Gallai Tate gael dirwy neu waharddiad rhag sefyll ar yr ystlys am gyfnod.

Dywedodd Steve Cooper, rheolwr Abertawe, ac Aitor Karanka, rheolwr Birmingham, ill dau nad oedden nhw wedi gweld y digwyddiad.