Mae gan Mike Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, ben tost wrth orfod gwneud rhai penderfyniadau anodd cyn eu gêm yn erbyn Watford yng Nghwpan Carabao heno (nos Fawrth, Medi 22).

Mae amheuon am ffitrwydd yr amddiffynnwr Liam Shephard, oedd wedi gorfod gadael y cae yn niwedd y fuddugoliaeth dros Barrow dros y penwythnos, ar ôl anafu ei ffêr.

Mae amheuon hefyd am Kyle Howkins, gyda’r amddiffynnwr yn dioddef o broblem gyda llinyn y gâr.

Ond fe allai Padraig Amond ddychwelyd i’r ymosod, tra bydd angen dewis rhwng Nick Townsend a Tom King yn y gôl.

Watford am arbrofi

Mae Vladimir Ivic, prif hyfforddwr Watford, wedi awgrymu y bydd e’n manteisio ar y cyfle i ddewis nifer o chwaraewyr ifanc.

Gallai hynny olygu cyfleoedd i chwaraewyr dan 23, gan gynnwys yr amddiffynwyr Derek Agyakwa a Dan Phillips, yn ogystal â’r chwaraewr canol cae Toby Stevenson.

Gallai James Garner, sydd ar fenthyg o Manchester United, hefyd gymryd rhan yn rhywfaint o’r gêm.

Mae’r asgellwr Ismaila Sarr ar gael, tra bod yr ymosodwr Troy Deeney yn parhau i wella o anaf i’w benglin, ynghyd ag Andre Gray (llinyn y gâr), Gerard Deulofeu (penglin) a Will Hughes.