Y Cymro, Chaz Davies, oedd yn fuddugol yn ras Superbikes y Byd yng Nghatalwnia.

Dyma oedd ei fuddugoliaeth gyntaf mewn dros flwyddyn.

“Mae’n anhygoel ac rydw i mor hapus – roedd hi’n ras dda iawn, o’r dechrau i’r diwedd,” meddai Chaz Davies wrth Eurosport.

Er hyn Jonathan Rea, a ddaeth yn bedwerydd yn y ras yng Nghatalwnia, sy’n parhau ar frig detholion Superbikes y byd.

Detholion Pencampwriaeth Superbike y byd
Jonathan Rea Kawasaki 290
Scott Redding Ducati 239
Chaz Davies Ducati 188
Michael van der Mark Yamaha 178
Toprak Razgatlioglu Yamaha 157
Alex Lowes Kawasaki 145