Mae rhyddfreinio rheilffyrdd wedi “dod i ben” yn sgil ymestyn mesurau i gynnal gwasanaethau trenau ar ôl y coronafeirws, yn ôl Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Prydain.

Mae gweithredwyr wedi symud tuag at “gytundebau trawsnewidiol” cyn creu “strwythur symlach a mwy effeithiol” dros y misoedd nesaf, meddai’r Adran Drafnidiaeth.

Ers mis Mawrth mae’r Adran wedi cymryd gofal o gyllid a chostau risg daliwyr rhyddfreiniau, gan wario £3.5 biliwn mewn arian trethdalwyr.

“Bydd angen cymorth pellach sylweddol gan drethdalwyr” o dan y Cytundeb Adfer Rheolaeth Brys (ERMAs), meddai’r Adran Drafnidiaeth.

“Ar ôl 24 mlynedd daeth gweinidogion â rhyddfreinio rheilffyrdd i ben heddiw, gan gymryd y cam cyntaf i uno rhwydwaith ranedig Prydain,” meddai’r adran.

“Mynnu mwy i’r teithwyr”

Bydd cwmnïau rheilffordd yn parhau i dalu cost rheoli i gynnal trenau, ond o dan yr ERMAs bydd y gost yn uchafswm o 1.5% o gost sylfaenol rhyddfreinio, yn hytrach na 2%.

Dywedodd Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain: “Fe wnaeth y cynllun preifateiddio a ddaeth i rym 25 mlynedd yn ôl gynyddu nifer y teithwyr, ond mae’r pandemig wedi profi nad yw’n gweithio bellach.

“Mae’r cytundeb newydd yn mynnu mwy i’r teithwyr.

“Bydd yn hwyluso siwrnai, gan gael gwared ar ansicrwydd a dryswch ynghylch defnyddio’r tocynnau cywir gyda’r cwmnïau trên cywir.

“Bydd yn cadw elfennau gorau’r sector breifat, gan gynnwys cystadleuaeth a buddsoddi sydd wedi creu cynnydd economaidd – yn ogystal â chynnig canllawiau strategaethol, arweiniad ac atebolrwydd,” esboniodd Grant Shapps.

“Bydd gan deithwyr fynediad i wasanaethau saff a dibynadwy ar rwydwaith sydd wedi ei hadeiladu o’u hamgylch nhw.

“Mae’n amser cael Prydain yn ôl ar y cledrau.”

Disgrifiodd yr Adran Drafnidiaeth y cyhoeddiad fel rhagarweiniad i’r Papur Gwyn fydd yn ymateb i awgrymiadau cadeirydd y Post Brenhinol, Keith Williams, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Prydain i greu adroddiad ar y rheilffyrdd.

“Mae’r cytundebau hyn yn cynrychioli diwedd y system rhyddfreiniau cymhleth, yn mynnu mwy gan sgiliau ac arbenigedd y sector breifat, ac yn sicrhau fod rheilffordd fwy cysylltiedig a phrydlon ar gael i deithwyr,” meddai Keith Williams.

Perchnogaeth gyhoeddus yw’r “unig drefn sy’n gweithio”

Er hynny, mynnodd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth, Mick Cash, fod “cwmnïau rheilffordd preifat yn wastraff amser ac arian.

“Perchnogaeth gyhoeddus yw’r unig drefn sy’n gweithio.”