Mae oligarch Rwsiaidd sydd â chysylltiadau agos a’r Arlywydd Vladimir Putin wedi bod yn ariannu gŵr un o roddwyr mwyaf y Blaid Geidwadol, yn ôl ymchwiliad.

Mae Lubov Chernukhin, bancwr sy’n briod a chyn-ddirprwy weinidog ariannol Vladimir Putin, wedi rhoi o leiaf £1.7 miliwn i’r Ceidwadwyr, yn ôl cofnodion y Comisiwn Etholiadol.

Mae ei rhoddion wedi sichrau cyfarfodydd gyda Boris Johnson, a’i ddau ragflaenydd, Theresa May a David Cameron.

Yn ôl ffeiliau sydd wedi cael eu gweld gan raglen BBC Panorama mae ei gwr, Vladimir Chernukhin, wedi derbyn £6.1m gan wleidydd sydd dan sancsiynau yn yr Unol Daleithiau oherwydd ei berthynas gyda’r Kremlin.

Roedd Vladimir Chernukhin wedi derbyn yr arian yn 2016 gan gwmni sydd â chysylltiadau gyda Suleyman Kerimov yn ôl adroddiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol: “Mae yna bobl yn y wlad hon sydd o dras Rwsiaidd ac sy’n ddinasyddion Prydeinig ac mae ganddyn nhw hawl ddemocrataidd i roi arian i blaid wleidyddol.

“Mae rhai wedi bod yn feirniadol iawn o Putin ac mae’n hollol amhriodol i bardduo pawb yn yr un ffordd.”

Ond mae’r Aelod Seneddol Llafur Chris Bryant wedi galw ar y Ceidwadwyr i ddychwelyd arian Lubov Chernukhin ar frys.

Fe ddechreuodd Lubov Chernukhin gyfrannu arian i’r Blaid Geidwadol yn 2012.

Mae derbyn rhoddion ar gyfer pleidiau gwleidyddol wedi dod o dan y chwyddwydr yn gynyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.