A hithau’n Wythnos Ailgylchu (21 – 27 Medi) mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch dan arweiniad y cogydd, yr awdur a’r rhedwr Matthew Pritchard, i arwain y byd ar ailgylchu.

Mae’r ymgyrch Bydd Wych, Ailgylcha yn annog pawb i wneud newidiadau bychain ond pwysig o ran ailgylchu er mwyn gwthio Cymru at rif un ar draws y byd.

Ers 1999 mae Cymru wedi cynyddu ailgylchu o 5% i dros 60%.

Ar hyn o bryd mae Cymru ar y blaen i weddill gwledydd Prydain, yn ail yn Ewrop ac yn drydydd dros y byd am ailgylchu gwastraff yn y cartref, ond yn ol Llywodraeth Cymru mae llawer i’w wneud eto os yw Cymru am arwain y byd.

Amcan Llywodraeth Cymru yw dod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050, gan leihau allyriadau tŷ gwydr a darparu adnoddau i wneud cynnyrch newydd, ynghyd â delio gyda gwastraff.

Er bod Cymru ar y trywydd cywir i gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% o wastraff trefol erbyn 2050, dangosa gwaith ymchwil WRAP Cymru, yr elusen y tu ôl Ailgylchu Cymru, fod bron i hanner dinasyddion Cymru yn rhoi o leiaf un eitem yn y bin sbwriel yn hytrach na’i ailgylchu.

Mae angen i Gymru fod “yn wych” ac ailgylchu cymaint â phosibl, meddai Llywodraeth Cymru.

Golyga hyn y byddai modd defnyddio’r deunydd sydd wedi ei ailgylchu yn hytrach na deunydd crai, gan fynd i’r afael â newid hinsawdd yr un pryd.

“Camau hawdd” 

Mae’r rhaglen Bydd Wych, Ailgylcha yn annog mwy o ailgylchu o bob math, gan gynnwys eitemau fel aerosol a photeli siampŵ, yn ogystal ag annog pobol i ailgylchu gwastraff bwyd yn well.

Ar hyn o bryd mae gwastraff bwyd yn cael ei gasglu o 99% o gartrefi, gyda bron i chwarter y sbwriel yn wastraff bwyd.

Gyda mwy o bobol yn bwyta yn eu cartrefi yn sgil y cyfnod clo, mae’n bwysicach nag erioed sicrhau bod pob gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu, a’i droi yn ynni adnewyddadwy i greu pŵer i gartrefi ar draws y wlad.

Wrth lansio’r ymgyrch yng Nghaerdydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

“Efallai bod Cymru yn wlad fechan ond pan ddaw i ailgylchu, rydyn ni yn gwneud llawer gwell na gwledydd eraill.

“Mae ein hymdrechion gydag ailgylchu wedi dod yn amlwg ledled y byd, ac yma yng Nghymru mae wedi dod yn rhan o’n diwylliant.

“Rydyn ni wedi dangos ein bod yn arwain ym maes ailgylchu ac mae pawb wedi chwarae eu rhan.

“Ond fe wyddom fod camau hawdd i’w cymryd i’n helpu i gyrraedd rhif un,” ychwanegodd Hannah Blythyn, sy’n Aelod o’r Senedd Llafur dros Delyn.

“Mae’n bwysig bod pobol yn ailgylchu popeth y gallant – o ddeunydd pacio archebion ar-lein, cyflenwadau dysgu gartref a gwastraff bwyd.

“Rydyn ni ar daith bwysig i greu economi gylchol trwy ddefnyddio adnoddau am gyhyd â phosibl ac osgoi gwastraff.

“Mae’r ymgyrch hwn yn tynnu sylw at y newidiadau y gall pob person ledled y wlad ei wneud i fod yn wych a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i helpu Cymru fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd.”

“Llawer i’w wneud eto”

Mae’r ymgyrch wedi derbyn cefnogaeth gan Matthew Pritchard, cogydd fegan, awdur ac athletwr, ac meddai: “Dwi bob amser yn barod am her a dyna pam fy mod yn cefnogi ymgyrch wych Cymru i ddod yn rhif un yn y byd am ailgylchu.”

“Mae llawer i’w wneud eto.

“Os ydych, fel fi, yn treulio llawer o amser yn y gegin, gwnewch yn siŵr bod eich holl wastraff bwyd anfwytadwy yn mynd i’r lle iawn.

“Gall croen ffrwythau a llysiau, bagiau te a gweddillion coffi yn ogystal ag unrhyw fwyd oddi ar blatiau, wedi’u coginio neu beidio, fynd i’ch bin gwastraff bwyd,” esboniodd.

“Mae’n hawdd i’w wneud ac yn rhywbeth y gallwn i gyd ei wneud i greu Cymru lanach a gwyrddach.”

“Allwn ni ddim rhoi’r gorau nawr”

Mae Carl Nichols, Pennaeth WRAP Cymru, yn cydnabod fod rhan fwyaf ohonom yng Nghymru yn ailgylchu ac yn deall ei bwysigrwydd, gan ddweud: “Mae gennym ddigon i fod yn falch ohono, ond os ydym am gyrraedd rhif un, allwn ni ddim rhoi’r gorau nawr.

“Gallwn ailgylchu mwy o eitemau o’r cartref, o wastraff bwyd i nwyddau’r ystafell ymolchi, a gwneud hynny yn fwy cyson i helpu i fynd i’r afael â’r newid hinsawdd.

“Rydym am atgoffa pobol y bydd cymryd camau syml yn gwneud gwahaniaeth mawr i helpu ein nod o ddod y genedl ailgylchu orau yn y byd.”